EIN STORI
Rhian a Carys
Croeso cynnes i’n Siop! Dwy ffrind oes ydym sy’n dwli ar bersawrau moethus a chanhwyllau gan iddynt ysgogi atgofion melys iawn o brofiadau bywyd a chynnig dihangfa lesol o brysurdeb bywyd. Cawsom ddiwrnod wrth ein boddau yn dysgu sut oedd mynd ati i greu canhwyllau ac yn syth bin, roeddwn wedi gwirioni’n llwyr. Fe’n hysbrydolwyd felly i fentro i fyd ysblennydd canhwyllau moethus.
Treuliwn grin amser yn perffeithio ein canhwyllau ac yn dewis ein harogleuon er mwyn cynnig y profiad gorau i chi. Mae darparu gwasaneth dwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg yn flaenoriaeth gennym gan ein bod yn ymfalchïo yn ein treftadaeth. Rydym yn arllwys pob cannwyll â llaw a defnyddiwn gŵyr soi naturiol i greu ein canhwyllau gan wneud pob ymdrech i ddethol cynnyrch eco -gyfeillgar er mwyn parchu’r amgylchedd.
Gobeithio y cewch gymaint o bleser a mwynhad o’n canhwyllau ag y cawsom ni o’u creu. Ymlaciwch a gorffwyswch gan adael i’ch synhwyrau fwynhau ein persawrau moethus a chain!