Awgrymiadau Diogelwch ar gyfer Tryledwyr
Mwynhewch Eich Tryledwr Persawrus yn Ddiogel
Cyfarwyddiadau: Tynnwch y toddion o’r pecyn. Torrwch ddarn a’u osod yn nysgl uchaf y cynheswr. Gosodwch gannwyll fach yn y daliwr yng ngwaelod y cynheswr. Sicrhewch fod y cynheswr ar wyneb gwastad, cadarn sy’n gwrthsefyll gwres, ac yn bell o unrhyw gynhyrchydd gwres arall. Ni ddylid llosgi’r gannwyll am fwy na 4 awr ar y tro.
Diogelwch: Peidiwch a rhoi eich bysedd yn agos at y cynheswr tra’i fod ynghyn. Er mwyn lleihau risg o niwed, cadwch allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes. Peidiwch a’i losgi heb oruchwyliaeth a chadwch o fewn golwg bob amser. Ceisiwch osgoi gorlenwi’r ddysgl doddi. Bydd y ddysgl yn dwym tra ynghyn, peidiwch a’i gyffwrdd gan y gall cwyr poeth eich llosgi. Gadewch i oeri’n llwyr wedi diffodd. Ni ddylid defnyddio gwrthrychau metal i lanhau’r cwyr o’r ddysgl gan y gallai ddifrodi’r cynheswr.
Storio’r Toddion: Cadwch mewn lle sych, go-oer ac allan o olau’r haul.
Newid eich toddion: Newidwch yr hen doddion drwy gynnu’r gannwyll fach am ryw 10-30 eiliad, bydd hyn yn rhyddhau’r cwyr sydd yn y ddysgl. Diffoddwch y gannwyll a gwthiwch y cwyr solid yn ofalus i’r ymyl, dylia’r cwyr ryddhau o’r ddysgl. Sychwch y ddysgl a thywel papur.
Purdeb – Cotwm Glân
Arogl ffres dillad glân a geir yn y persawr hwn ynghyd â chytgord ysgafn o fwsg, fioled ac oren a chyffyrddiadau tawel o lili a jasmin. Dewis poblogaidd.
Nwyd – Tegeirian Du
Cytgord cyfoethog o ylang a thryffl du sy’n cydweddu’n berffaith gyda melyster cyrens duon a bergamot.
Serenedd – Aeron Melys a Lilis Gwynion
Mae arogleuon blodeuol yn cydgymysgu’n dyner ag aeron pefriog a mwsg yn y persawr hwn.
Rhamant – Blodau’r Lili ac Alaw’r Dwr
Persawr rhamantus a gyfoethogir gan fêl melys a grawnffrwyth, mandarin, alaw’r dwr a mwsg – gwynfyd pur!
Deffro – Oren Tanllyd a Bergamot
Persawr ag iddo nodau sitrws trawiadol o oren a thanjerîn sydd hefyd yn cynnwys awgrym o sinsir a chlof a thinc o fanila melfedaidd.
Hiraeth – Pren Oud
Yn ysbrydoliaeth i’r arogl arloesol hwn y mae temlau yn llawn o arogldarthau cyfoethog ynghyd ag angerdd am brennau ecsotig a phrin.
Dihangfa – Cypreswydden a Gwinwydden
Cymysgedd annisgwyl o bren cedrwydd a fetifer sy’n asio’n berffaith gyda’r ambr a’r grawnwin i greu arogl cynnes a naturiol.
Nerth – Lledr Ombr
Persawr nerthol, moethus a chyfoethog lledr wedi’i gyfuno â fioled a jasmin – arogl unigryw.
Enaid – Myrr a Thonca
Sent o ambr dwys sy’n ffefryn i bawb, law yn llaw ag arogl amlwg o lafant a myrr Omumbiri ynghyd â sylfaen o fanila, almon a ffa thonka. Arogl urddasol a grymus.
Gorwelion – Awel Rhyddid
Arogl mwyar duon ffrwythlon a suddlon yn gymysg a lafant gwyllt, oren a fanila ynghyd a blodau jasmin melys a geir yn y gannwyll hon.
Llanw a Thrai – Cypreswydden Arfordirol a Ffenigl y Môr
Persawr o ddail ffigys, bergamot a chardamom sy’n cyd-weddu’n berffaith â naws y môr ac arogl hyfryd y fioled a’r jasmin, law yn llaw a gwynt gwaelodol ysgafn y cypreswydden, cedrwydden a mwsg.
Asbri – Lemonwellt yr India a Philyn Leim
Sent sitrws pwerus o lemwn a leim â naws ysgafn blodeuol yn gymar.
Botaneg – Jam Rhosys
Mae yna gyffyrddiadau amlwg o ffrwythau a blodau yn y persawr hwn sy’n cyfuno’r elfennau annisgwyl o rosynnau Twrcaidd â marmalêd ag arogl lemwn a mynawyd y bugail. Dyma bersawr hollol unigryw.
Cyffroi – Mwsg Gwyn ac Ambr
Harmoni perffaith o ambr a mwsg cyfoethog sy’n creu arogl melfedaidd â thinc o rosynnau. Persawr ysgafn a thyner.
Maldod – Gwlad o Rosynnau
Arogl ffres ac iachus o flodau â murmur cynnes o fwsg yn gymar.
Hudolus – Pomgranad
Arogl amhosib ei wrthod. Yn y gannwyll hon ceir persawr rhamantus a chariadus y pomgranad a phatsiwli ynghyd a thinc chwareus yr ambr cyfoethog.
Cwtsh – Cysur a Chwtsh ar Ddiwrnod Golch
Nodau glân o lili a neroli a chyffyrthiadau o binwydd ar gefndir ysgafn o sandalwydden ac iris.