Awgrymiadau Diogelwch ar gyfer Tryledwyr
Mwynhewch Eich Tryledwr Persawrus yn Ddiogel
Mae tryledwyr yn fodd arbennig o bersawru ystafelloedd eich cartref.
Sut i’w Defnyddio: Bydd y cyrs yn rhyddhau arogleuon hyfryd yn gyson o gwmpas yr ardal lle’u gosodwyd. Yn syml trowch y cyrs drosodd yn wythnosol er mwyn atgyfnerthu’r persawr. Cofiwch wisgo menyg cyn cyffwrdd â’r cyrs.
Cyfarwyddiadau: Tynnwch y clawr a/neu’r plwg, rhowch y clawr yn ôl (os darparwyd clawr gan mai plwg yn unig sydd gan rai o’n tryledwyr) ac yna gosodwch y cyrs yn y botel. Ar ôl awr, gwisgwch fenyg a throwch y cyrs drosodd er mwyn gorchuddio’r pen arall â phersawr. Os ydych yn hoff o bersawr cryfach, defnyddiwch pob corsen neu ar gyfer persawr gwanach, defnyddiwch nifer llai. Trowch y cyrs drosodd yn wythnosol.
Purdeb – Cotwm Glân
Arogl ffres dillad glân a geir yn y persawr hwn ynghyd â chytgord ysgafn o fwsg, fioled ac oren a chyffyrddiadau tawel o lili a jasmin. Dewis poblogaidd.
Nwyd – Tegeirian Du
Cytgord cyfoethog o ylang a thryffl du sy’n cydweddu’n berffaith gyda melyster cyrens duon a bergamot.
Serenedd – Aeron Melys a Lilis Gwynion
Mae arogleuon blodeuol yn cydgymysgu’n dyner ag aeron pefriog a mwsg yn y persawr hwn.
Rhamant – Blodau’r Lili ac Alaw’r Dwr
Persawr rhamantus a gyfoethogir gan fêl melys a grawnffrwyth, mandarin, alaw’r dwr a mwsg – gwynfyd pur!
Deffro – Oren Tanllyd a Bergamot
Persawr ag iddo nodau sitrws trawiadol o oren a thanjerîn sydd hefyd yn cynnwys awgrym o sinsir a chlof a thinc o fanila melfedaidd.
Hiraeth – Pren Oud
Yn ysbrydoliaeth i’r arogl arloesol hwn y mae temlau yn llawn o arogldarthau cyfoethog ynghyd ag angerdd am brennau ecsotig a phrin.
Dihangfa – Cypreswydden a Gwinwydden
Cymysgedd annisgwyl o bren cedrwydd a fetifer sy’n asio’n berffaith gyda’r ambr a’r grawnwin i greu arogl cynnes a naturiol.
Nerth – Lledr Ombr
Persawr nerthol, moethus a chyfoethog lledr wedi’i gyfuno â fioled a jasmin – arogl unigryw.
Enaid – Myrr a Thonca
Sent o ambr dwys sy’n ffefryn i bawb, law yn llaw ag arogl amlwg o lafant a myrr Omumbiri ynghyd â sylfaen o fanila, almon a ffa thonka. Arogl urddasol a grymus.
Gorwelion – Awel Rhyddid
Arogl mwyar duon ffrwythlon a suddlon yn gymysg a lafant gwyllt, oren a fanila ynghyd a blodau jasmin melys a geir yn y gannwyll hon.
Llanw a Thrai – Cypreswydden Arfordirol a Ffenigl y Môr
Persawr o ddail ffigys, bergamot a chardamom sy’n cyd-weddu’n berffaith â naws y môr ac arogl hyfryd y fioled a’r jasmin, law yn llaw a gwynt gwaelodol ysgafn y cypreswydden, cedrwydden a mwsg.
Asbri – Lemonwellt yr India a Philyn Leim
Sent sitrws pwerus o lemwn a leim â naws ysgafn blodeuol yn gymar.
Botaneg – Jam Rhosys
Mae yna gyffyrddiadau amlwg o ffrwythau a blodau yn y persawr hwn sy’n cyfuno’r elfennau annisgwyl o rosynnau Twrcaidd â marmalêd ag arogl lemwn a mynawyd y bugail. Dyma bersawr hollol unigryw.
Cyffroi – Mwsg Gwyn ac Ambr
Harmoni perffaith o ambr a mwsg cyfoethog sy’n creu arogl melfedaidd â thinc o rosynnau. Persawr ysgafn a thyner.
Maldod – Gwlad o Rosynnau
Arogl ffres ac iachus o flodau â murmur cynnes o fwsg yn gymar.
Hudolus – Pomgranad
Arogl amhosib ei wrthod. Yn y gannwyll hon ceir persawr rhamantus a chariadus y pomgranad a phatsiwli ynghyd a thinc chwareus yr ambr cyfoethog.
Cwtsh – Cysur a Chwtsh ar Ddiwrnod Golch
Nodau glân o lili a neroli a chyffyrthiadau o binwydd ar gefndir ysgafn o sandalwydden ac iris.